(Ffyddlondeb Duw)
Doed uffern, angeu, a holl rym
Fy mhechod yn gyttûn,
Cadarnach, trymach, lawr yw
Ffyddlondeb Duw Ei Hun.
Ac yn eu herbyn gwaeddi wnaf,
"Yr Arglwydd yw fy rhan";
Ac yn Ei glwyfau mi ga'r dydd
Yn hollol yn y mân.
Ac mi ro' f'angor yma i lawr
Mewn moroedd dyfnion maith,
Nes im' gael glànio'r ochr draw
I'r wlad o fêl a llaeth.
Pan aller briwio gallu'm Duw
Dileu ffyddlondeb nen,
Yr adeg hono'n unig 'r ä
Tymhestloedd dros fy mhen.
- - - - -
Doed uffern, angau, a holl rym
Fy mechod, yn gytun;
Cryfach, a thrymach lawer yw
Ffyddlondeb Duw ei hun.
Anghyfnewidiol ydyw Ef,
Ond cyfnewidiol fi;
Am hyn mi safa', doed a ddel,
Mae'r afael sicra' fry.
Mae'n para'n ffyddlon byth heb drai,
P'odd bynag try y byd;
A phe cymysgai'r tir a'r môr,
Yr un yw Duw o hyd.
Pan syrthio'r sêr fel ffigys îr,
Fe bery gras fy Nuw;
A'i faith ffydlondeb
tra fo'r nef;
Anghyfnewidiol yw.
- - - - -
Doed uffern, angau, a holl rym
Fy mhechod yn gytun;
Cryfach a thrymach lawer yw
Ffyddlondeb Duw ei Hun.
Ac yn eu gwyneb gwaeddi wnâf,
"Yr Arglwydd yw fy rhan;"
Ac yn ei glwyfau mi ga'r dydd,
Yn hollol yn y man.
Mi rof fy angor yma i lawr,
Mewn moroedd dyfnion maith;
Nes im' gael tirio oll i'r lân,
I'r wlad o fel a llaeth.
[A ellir maeddu dwyfol rym?
A ddiffydd dwyfol dân?
Na wna; fe arwain cariad pur
O'r dywell Aipht fi 'mlaen.
Pan aller briwo nerth fy Nuw,
Tori ffyddlondeb nen,
Dyna yr unig bryd yr â
Tymhestlog tros fy mhen.]
William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]:
Bedford (William Wheale 1696-1727)
George's (<1835)
Gloucester (1621 Salmydd Ravenscroft)
St Ann (William Croft 1678-1727)
gwelir:
Tydi fy Arglwydd yw fy rhan
Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn
|
(God's faithfulness)
Let hell, death, and all the force of
My sin come together,
Much heavier and firmer is
The faithfulness of God Himself.
And against them I will shout,
"The Lord is my portion";
And in His wounds I will gain the day
Completely soon.
And I will put my anchor down here
In vast, deep seas,
Until I get to land on the other side
To the land of milk and honey.
When bruising my God's ability is able
To delete the faithfulness of heaven
Only then will tempests
Go over my head.
- - - - -
Let hell, death and all the force of
My sin come together;
Much heavier and stronger is
The faithfulness of God himself.
Unchangeable is He,
But changeable I;
Therefore I will stand, come what may,
The grasp is most secure above.
He will continue faithful forever unebbing,
However the world turns;
And should the land and sea mix,
God is still the same.
When the stars fall like fresh figs,
My God's grace will persist;
And his vast faithfulness
while heaven shall be;
Is unchangeable.
- - - - -
Let hell, death, and all the force of
My sin come together,
Much heavier and firmer is
The faithfulness of God Himself.
And in their face I will shout,
"The Lord is my portion";
And in His wounds I will gain the day
Completely soon.
I will put my anchor down here
In vast, deep seas,
Until I get to land all ashore
To the land of milk and honey.
[And can divine force be beaten?
And extinguished divine fire?
No it cannot; pure love will lead
Me from the darkness of Egypt onward.
When bruising my God's strength is able
To break the faithfulness of heaven
Only then will tempests
Go over my head.]
tr. 2013,14 Richard B Gillion
|
|